Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Chwefror 2019
Amser:
13.30 -
15.54
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5267
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Geoff Ryall-Harvey, North Wales Community Health Council Mark Thornton, North Wales Community Health Council Garth Higginbotham, North Wales Community Health Council |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.1 Nodwyd y papurau.
3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Geoff Ryall-Harvey, y Prif Swyddog; Mark Thornton, y Cadeirydd, a Garth Higginbotham, Is-Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru fel rhan o'u hymchwiliad i'r hyn a ddysgwyd yn sgil Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
3.2 Cytunodd Geoff Ryall-Harvey i anfon rhagor o wybodaeth ynghylch:
· Y rhaglen o ymweliadau â chyfleusterau iechyd meddwl ers mis Mai 2017 ynghyd ag unrhyw adroddiadau perthnasol;
· Data sy'n ymwneud â nifer y staff asiantaeth a gyflogir gan wasanaethau iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a
· Chopi o adroddiad y Cyngor Iechyd Cymuned, Ein Bywydau ar Stop.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd yr Aelodau eu hymweliadau diweddar â gwasanaethau y tu allan i oriau.
7.1 Trafododd yr Aelodau benodau terfynol yr adroddiad drafft gan nodi y byddai fersiwn ddiwygiedig yn barod i'w thafod ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 11 Chwefror.
8.1 Trafododd yr Aelodau adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ac ymateb Llywodraeth Cymru, gan gytuno i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru.
9.1 Trafododd yr Aelodau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a nododd y byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn edrych ar gostau staff asiantaeth fel rhan o'r gwaith o graffu ar bob bwrdd iechyd dros y flwyddyn nesaf. Cytunodd yr Aelodau i gadw llygad ar y mater hwn.